Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn ei fod wedi mynychu cyfarfod briffio technegol gyda swyddogion ar y mater hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddo am wneud hynny. Y ffordd y defnyddir band B y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain o fewn y model buddsoddi cydfuddiannol yw drwy gyfanrediad. Ar eu pennau eu hunain, ni fyddai'r cynlluniau hynny'n pasio'r prawf a nodwyd ganddo, ond drwy ddod â hwy ynghyd o dan un cynllun Cymreig, gyda'i gilydd mae'r gwariant ar draws awdurdodau addysg lleol Cymru yn cyrraedd y trothwy a nodwyd ganddo, ac felly'n caniatáu inni ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn y maes hwnnw.