Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Tachwedd 2018.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Rwy'n un a fu'n dadlau'n hir o blaid cynllun arloesi i arbed fel modd o gael pobl i wneud rhywbeth gwahanol, sy'n gallu creu cryn fanteision. Ni fydd pob un ohonynt yn llwyddo, oherwydd pe bai pob un yn llwyddo, byddem yn ôl i fodel buddsoddi i arbed lle rydym yn gwneud y peth diogel. Ond bydd rhai ohonynt yn llwyddo, a bydd rhai ohonynt yn gwneud arbedion sylweddol ar gyfer sefydliadau. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu hyrwyddo'r llwyddiannau fel y gall eraill wneud yr un fath ac elwa o arloesi? Dywedwyd ers tro nad yw arferion da yn teithio cystal ag y dylent yng Nghymru.