Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Lywydd, ein dadansoddiad ni o safbwynt y consensws gan ymchwilwyr ac academyddion prif ffrwd yw y gallai symud at reolau Sefydliad Masnach y Byd arwain at leihad o hyd at 10 y cant yn economi'r DU yn y dyfodol. Dyna pam fod ein dull o weithredu ar sail tystiolaeth yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' wedi argymell ein bod yn cymryd rhan lawn a dilyffethair yn y farchnad sengl.