Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud ag amrywiol agweddau ar les anifeiliaid—pwnc pwysig, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno. Ac felly rwy'n hapus i wneud y cynnig hwn heddiw ar ran UKIP.
Mae UKIP yn credu y dylai lles anifeiliaid fferm o adeg eu magu hyd nes y cânt eu lladd fod yn flaenoriaeth absoliwt i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y DU sydd â rhai o'r safonau uchaf o les anifeiliaid yn y byd. Fodd bynnag, mae ein cynnig heddiw yn dangos sut y gall Cymru wella ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn dangos ein dymuniad i fod yn arweinydd byd o ran safonau lles.
Cefnogir y pwyntiau yn ein cynnig gan weithwyr proffesiynol a chan lawer o ymchwil academaidd ym maes lles anifeiliaid. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod yr angen i ddiwydiant amaethyddol Cymru barhau i ffynnu ac i gynhyrchu ei chynhyrchion cig mawr eu bri yn rhyngwladol.
Mae rhan gyntaf ein cynnig yn ymwneud â gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng. Mae hwn yn declyn hanfodol mewn lladd-dai er mwyn sicrhau y glynir at y safonau uchaf o les anifeiliaid. Mae gwyliadwriaeth camera yn lleihau'r posibilrwydd o gam-drin ac esgeuluso anifeiliaid, a lle bo hynny'n digwydd, gellir dwyn y drwgweithredwyr i gyfrif yn gyflym. Ar hyn o bryd, nid oes gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar waith mewn 14 o ladd-dai yng Nghymru, er bod gan y rhan fwyaf o'r lladd-dai mwy o faint systemau o'r fath.
Yn ôl ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, ni chedwir data ar leoliad na chyrhaeddiad y camerâu sy'n weithredol mewn lladd-dai na nifer yr anifeiliaid a laddwyd heb fod gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar waith. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn amcangyfrif bod 2 filiwn o adar a bron 400,000 o ddefaid, moch, a gwartheg yn cael eu lladd heb wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng bob blwyddyn yng Nghymru. Nododd y gymdeithas fod y risg bosibl o niwed i les yr anifeiliaid hyn yn cynyddu os nad oes teledu cylch cyfyng yn weithredol.
Yn achos y lladd-dai lle y gosodwyd teledu cylch cyfyng, nid oes unrhyw gysondeb o reidrwydd o ran lleoliad camerâu mewn lladd-dai. Ni cheir unrhyw fanylebau cyson ynglŷn â lleoliad neu nifer y camerâu. Felly, hyd yn oed mewn lladd-dai lle y ceir gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng, nid oes unrhyw sicrwydd fod y camerâu mewn lleoliadau addas i ffilmio'r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau safonau uchel o les ym mhob achos. Felly, mae angen inni edrych ar hyn yn ogystal.
Dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2017, tua £33,000 yn unig o arian Llywodraeth Cymru a neilltuwyd ar gyfer helpu'r Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau lles. Mae llawer o arbenigwyr yn ystyried bod y lefel hon o gyllid yn gwbl annigonol ar gyfer sicrhau y cydymffurfir â gweithdrefnau cywir. Yn ei datganiad ddoe, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, sydd yma heddiw wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn lladd-dai bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll heriau'r dyfodol yn well. Ychwanegodd:
'byddaf yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda gweithredwyr busnes bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan. Mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol o ran diogelu lles anifeiliaid'.
Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae Cymru bellach ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn llusgo'i thraed mewn perthynas â gosod teledu cylch cyfyng. Mae cynnig UKIP heddiw yn ceisio sicrhau bod safonau lles anifeiliaid Cymru yn gyfredol drwy alw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng a darparu cyllid uniongyrchol priodol at y diben hwn.
Mae rhan nesaf ein cynnig heddiw yn ymwneud â lladd heb stynio. Ar hyn o bryd, mae gan aelod-wladwriaethau'r UE gymhwysedd i ofyn am randdirymiad sy'n caniatáu i ladd-dai hepgor stynio anifeiliaid ar sail arferion crefyddol. Mae'r ffaith bod cyfraith y DU yn datgan y dylid stynio anifeiliaid cyn eu lladd ohoni ei hun yn cydnabod mai stynio cyn lladd yw'r dull lleiaf creulon. O dan gyfraith Islamaidd, sy'n ymwneud â halal fel dull o ladd, ac o dan gyfraith Iddewig, sy'n ymwneud â'r dull shechita o ladd, rhaid ystyried bod anifail yn fyw ar adeg eu lladd. Mae Shechita yn gwahardd yn benodol unrhyw stynio a wneir i anifail cyn ei ladd. Ledled y DU, mewn lladd-dai lle yr arferir lladd halal, caiff 80 i 85 y cant o'r holl anifeiliaid eu stynio cyn eu lladd—gwybodaeth gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i adael cyfran sylweddol o anifeiliaid yn y DU sy'n cael eu lladd heb eu stynio. Ceir pryder cynyddol, o ystyried twf cyflym y farchnad halal, fod y cyhoedd yn gyffredinol yn rheolaidd bellach yn bwyta cig wedi'i stynio a heb ei stynio.
Beth y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud ar y pwnc hwn? Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Compassion in World Farming a'r Humane Slaughter Association oll wedi galw'n gyhoeddus am wahardd lladd heb stynio yn y DU. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi datgan bod stynio'n well o safbwynt lles ar sail tystiolaeth wyddonol.
Roedd eu hymchwil yn ailwerthuso'r angen i stynio lloi cyn eu lladd. Nododd yr astudiaeth:
Gall ymwybod, a gallu'r anifail felly i deimlo poen a phrofi trallod ar ôl y toriad, barhau am 60 eiliad neu'n hwy mewn gwartheg.
Dylwn nodi hefyd fod lladd heb stynio eisoes wedi'i wahardd yn Denmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd.
Beth am farn y cyhoedd ar y mater hwn? Yn ddiweddar, lansiodd Cymdeithas Milfeddygon Prydain ddeiseb i wahardd lladd heb stynio. Cyrhaeddodd dros 100,000 o lofnodion, gan ysgogi dadl yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2014. Cynhaliodd Farmers Weekly arolwg ar-lein ym mis Mawrth a mis Ebrill 2018 yn gofyn y cwestiwn, 'A ddylid gwahardd lladd anifeiliaid heb eu stynio am resymau crefyddol yn y DU?' Atebodd 77 y cant y dylai gael ei wahardd.
Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn? Mae Lesley Griffiths wedi datgan o'r blaen yn y Siambr ei bod wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â stynio anifeiliaid cyn eu lladd. Dywedodd y byddai'n ystyried y cyngor, ond na fyddai'n gwneud polisi heb ystyriaeth drylwyr—roedd hyn pan oedd hi'n cael cwestiynau materion gwledig gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Dywedodd y Prif Weinidog, yn wahanol i Lesley Griffiths, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ddiweddar, na fyddai'n cefnogi gwaharddiad ar ladd heb stynio—roedd hyn mewn ymateb i gwestiynau gennyf yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog.
Beth yw safbwynt Llywodraeth y DU? O dan y Llywodraeth glymblaid yn y blynyddoedd diweddar, cafodd deiseb a gyrhaeddodd dros 100,000 o lofnodion yn galw am wahardd lladd heb stynio ei thrafod yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn anffodus, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei hymrwymiad i randdirymiad yn y gyfraith sy'n caniatáu lladd anifeiliaid heb eu stynio.
Mae'n dod yn fwyfwy amlwg fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn barod i anwybyddu cyngor arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid. Ar fater mor bwysig â hyn, lle y profwyd mai stynio cyn lladd yw'r arfer gorau o ran safonau lles, ni ddylem ganiatáu i arferion crefyddol bennu polisi Llywodraeth.
Gan droi at y gwelliannau heddiw, mae digonedd o bethau yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr a'r Llywodraeth y byddem yn cytuno â hwy, ond wrth gwrs, maent unwaith eto'n ceisio dileu llawer o'r hyn a fynegwn yn ein pwyntiau, felly nid ydym yn cefnogi'r gwelliannau hynny heddiw.
Ar y llaw arall, mae Neil McEvoy wedi cyflwyno gwelliant adeiladol, nad yw'n dileu'r hyn a ddywedwn ond mae'n ychwanegu pwynt da ato. Mae Neil yn nodi mater gwerthu cŵn bach gan drydydd parti. Rwyf fi a Michelle Brown wedi gofyn cwestiynau am y mater hwnnw o ochr UKIP yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac rydym yn hapus i gefnogi gwelliant 3 gan Neil heddiw.