Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu bod Darren yn meddwl y byddai'n rhaid iddo godi a gwneud araith yn y fan honno. [Chwerthin.] Diolch ichi, Lywydd—mae'n bleser gennyf gynnig y gwelliant y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno i'r ddadl heddiw gan UKIP, a diolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl ar les anifeiliaid yma yn y Siambr y prynhawn yma. Fel y dywedais yn y datganiad ddoe, buaswn yn tybio mai un o'r pethau sy'n llenwi'r rhan fwyaf o sachau post yr Aelodau, a sachau post y Llywodraeth yn wir, yw materion yn ymwneud â lles anifeiliaid a'r pryder sydd gan y cyhoedd yma yng Nghymru ynghylch anifeiliaid fferm ac anifeiliaid domestig yn ogystal. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig deall, a soniodd arweinydd UKIP am hyn—y ffaith ein bod yn dileu rhan o'r cynnig—yn y sector ffermio da byw mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig edrych ar fframweithiau'r DU yn ogystal, ar y sail fod llawer o dda byw Cymru, er gwell neu er gwaeth, yn mynd i Loegr i'w prosesu. Ni allwch ynysu Cymru ar ei phen ei hun, er y gallwn ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni i wneud gwelliannau sylweddol yma.
Roedd yn bleser gwneud yn siŵr fod ein maniffesto yn 2016 yn cynnwys hwyluso teledu cylch cyfyng gorfodol ar draws holl ladd-dai Cymru, a gwn fod y Llywodraeth, er clod iddynt, a bod yn deg, yn gwneud cynnydd ar y mater penodol hwn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y sicrheir mynediad at gyllid ar gyfer lladd-dai bach a chanolig eu maint, oherwydd mae'r pwysau yn y sector penodol hwnnw wedi cyfyngu'n enfawr ar nifer y lladd-dai sydd ar gael yma yng Nghymru, ac mae hynny i bob pwrpas yn ychwanegu milltiroedd at yr amser teithio sy'n rhaid i stoc ei oddef cyn cael eu prosesu, oherwydd, yn amlwg, mae'r lladd-dy lleol wedi gorfod cau oherwydd pwysau costau. Felly, mae'n hanfodol bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio gyda'r sector i wneud yn siŵr fod teledu cylch cyfyng yn dod yn orfodol mewn lladd-dai, a bod y systemau ariannol, naill ai drwy'r cynllun datblygu gwledig neu fath arall o gymorth, yn dod ar gael i'r gweithredwyr hynny.
Heb rithyn o amheuaeth, mae'r sefyllfa a welwn yn yr amgylchedd a ffermir ar hyn o bryd yn wahanol iawn i ble'r oeddem 20 mlynedd yn ôl o ran lles anifeiliaid. Mae gennym ddefnyddiwr sy'n llawer mwy gwybodus wrth brynu'r cynnyrch oddi ar y silff y dymunant ei fwyta ac yn aml iawn drwy eu chwaeth a'u galwadau hwy, maent yn ysgogi gwelliannau lles wrth gât y fferm. Rydym wedi gweld llu o gynlluniau gwarant ffermydd yn cael eu cyflwyno yn y sector da byw i roi sicrwydd i'r defnyddiwr pan fyddant yn gwneud y dewis gwybodus hwn—a logo'r tractor coch yw un o'r cynlluniau hynny, ac mae gwarant anifeiliaid fferm RSPCA, gyda'u label lles, yn un arall, a gallwn barhau oherwydd ceir llawer ohonynt. Yn wir, un o'r problemau, buaswn yn awgrymu, yw bod gormod o gynlluniau gwarant i'w cael o bosibl, a phe bai modd eu dwyn ynghyd o dan un neu ddau o labeli, byddai hynny'n helpu i hysbysu'r defnyddiwr beth y mae'n ei brynu mewn gwirionedd.
Mae hynny'n arwain at labelu, a chredaf fod hwnnw'n faes pwysig ar gyfer gwella. Yn y datganiad ddoe soniais am enghraifft y cyw iâr a gafodd ei brynu yma yng Nghymru. Ar flaen y pecyn dywedai 'British poultry', ond wedi i chi ei droi drosodd, dywedai mai cynnyrch o Wlad Thai ydoedd. Nawr, os oes rhywun am brynu cynnyrch o Wlad Thai, croeso iddynt wneud hynny, ond pan fyddwch yn edrych ar y silff a bod y neges ar y blaen yn dweud wrthych mai dofednod wedi'i gynhyrchu yn y wlad hon ydyw, mae hynny'n camarwain y defnyddiwr, heb rithyn o amheuaeth, ac eto mae'n ymddangos bod y manwerthwr yn yr achos penodol hwn wedi cael rhyddid i wneud hynny.
Felly, mae angen inni weithio mewn sawl ffordd i wneud y gwelliannau y dymunwn eu gweld—o labelu i welliannau seilwaith ac yn bennaf oll, buaswn yn awgrymu, fel y dywedais yn y datganiad ddoe, mewn perthynas ag addysg yn arbennig. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd gennym yn cynnwys cynnig cyfraith Lucy y credaf ei fod yn hanfodol i ni geisio gwneud cynnydd yma yng Nghymru ar fater anifeiliaid anwes domestig, yn enwedig—cŵn, cŵn bach a chathod bach—oherwydd mae hwn yn faes sy'n peri pryder enfawr i'r cyhoedd yn gyffredinol, ac yn anffodus mae ffermio cŵn bach, yn arbennig, wedi cael troedle yng ngorllewin Cymru, yn benodol, fel y profodd nifer o enghreifftiau. Mae gennym allu yma drwy'r pwerau deddfwriaethol sydd gennym a'r rheoliadau y gallwn eu gwneud i gael gwared unwaith ac am byth ar y broses hon sy'n arwain at ganlyniadau lles mor ofnadwy i gŵn bach ac yn arbennig, i gathod bach yma yng Nghymru a thu hwnt, yn amlwg, oherwydd caiff yr anifeiliaid hynny eu cludo dros bellteroedd mawr i'r farchnad y mae pobl yn ceisio gwerthu'r cŵn a'r cathod bach hynny iddi yn y pen draw.
Hoffwn ofyn hefyd i'r Gweinidog os gallai, yn ei hymateb, gyffwrdd ar y pwynt mai un peth yw i ni siarad yn y Siambr hon am reoliad a deddfwriaeth, ond yr hyn sy'n bwysig ei ddeall yw: a oes gallu ac adnoddau gan y cyrff rheoleiddio yma yng Nghymru i weithredu'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau a gyflwynwn mewn gwirionedd? Yn aml iawn, adrannau safonau masnach yw un o'r adrannau sy'n dioddef toriadau mawr mewn llywodraeth leol, ac maent o dan bwysau enfawr a chanddynt agenda helaeth i ymdrin â hi. A'r hyn sy'n rhaid ei ddeall os ydym am gyflwyno cynigion fel cyfraith Lucy, fel gwella rheoliadau cludo anifeiliaid fferm a gwelliannau i ladd-dai, yw bod capasiti yn y cyrff rheoleiddio i oruchwylio a gwneud yn siŵr y gellir plismona'r amddiffyniadau y dymunwn eu rhoi ar waith, ac y mae ein hetholwyr yn briodol iawn yn eu mynnu gennym, allan yno yn y diwydiant ac yn y sector anifeiliaid anwes.
Felly, dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r gwelliant y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno y prynhawn yma, oherwydd nid yw'n edrych ar Gymru ar ei phen ei hun yn unig, mae'n edrych ar draws y DU gyfan, ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol, nid yn unig maes ffermio da byw, ond hefyd yn yr amgylchedd anifeiliaid anwes yn ogystal, sy'n destun pryder allweddol i etholwyr.