Cysylltedd Band-eang yn Arfon

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:28, 14 Tachwedd 2018

Diolch. Mae safon y cysylltedd i fand eang yn Arfon yn anghyson, boed mewn ardal wledig neu ddinesig. Er enghraifft, ym mharc busnes Menai ym Mangor, mae busnesau yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd diffyg safon y cysylltedd. Mae nifer o etholwyr wedi sôn am enghreifftiau lle y mae llond llaw o dai yn cael eu heithrio er bod ffibr i’r adeilad wedi’i osod i’r rhan fwyaf o’r tai, nid ydy’r gwaith wedi cael ei orffen. Mae yna rai tai wedi cael eu gadael ar ôl yn Waen Pentir, Nebo, Nasareth, Tregarth a Thal-y-bont. A ydy hyn yn arwydd o ddiffyg cynllunio’r gwaith yn briodol? Gyda llaw, rydw i yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi i etholaeth Arfon ar 29 Tachwedd lle cawn ni wyntyllu’r problemau yma’n llawn.