Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Fel y clywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae'n fwy na pharod i edrych ar y sylwadau a wnaed ynglŷn â'r posibilrwydd fod y fasnach arfau yn cael cymorth gan unrhyw arian Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i'r Siambr. Ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn gwneud yr un peth drwy siarad â chyd-Aelodau sy'n cefnogi unrhyw beth o'r fath.