Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Arweinydd y tŷ, mae eich rhestr o gyfrifoldebau yn cynnwys hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi egluro sut rydych yn gweithio gydag adrannau a Gweinidogion eraill, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau cydymffurfiaeth â hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd?