Cysylltedd Band-eang yn Arfon

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:39, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch i chi am eich ateb. Mae eich cyd-Aelod ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi'i restru fel siaradwr gwadd mewn ffair arfau a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys gwerthu arfau i gyfundrefnau ag enw gwarthus iddynt mewn perthynas â hawliau dynol ac sy'n weithredol mewn achosion o wrthdaro arfog difrifol, gan gynnwys Saudi Arabia, gwlad a fyddai'n cael ei hystyried yn wladwriaeth sy'n noddi terfysgaeth oni bai am ei buddiannau olew, fel y byddai unrhyw ddadansoddiad gonest yn ei gasglu. A allwch chi egluro sut y mae cymeradwyaeth eich cyd-Aelod i'r ffair greulondeb hon yn gydnaws â chydymffurfiaeth â chyfrifoldebau hawliau dynol?