Gwella'r Amgylchedd o amgylch y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:15, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Yn wahanol i chi, nid wyf wedi bod yn ddigon dewr i ymweld â tho'r Pierhead i weld y ddau gwch gwenyn, ond rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cymryd rhan yn y prosiect hwnnw. Fel yr awgrymoch chi, mae nifer o fannau o gwmpas yr ystâd lle mae pobl wedi bod yn plannu planhigion peillio y mae gwenyn yn hoff ohonynt, ac mae hynny'n cynnwys y maes parcio, ac mae'r planhigion a'r blodau yn y maes parcio hwnnw o hyd. Hefyd, o amgylch adeilad y Senedd, fe fyddwch wedi sylwi ar y potiau plannu yn yr ardd y tu allan i gaffi'r Senedd. Cawsom gyfarfod yn ddiweddar—ein swyddogion—gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i ddenu mwy o fywyd gwyllt, ac adar yn arbennig, i'r ystâd drwy gyfrwng blychau nythu a phwll bach, o bosibl. Peidiwch â chyffroi am y posibilrwydd o bwll bach ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych ar nifer o'r pethau hyn—.