Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Mae gennym gynlluniau parhaus i wella gwasanaethau darlledu a systemau clywedol, ac mae hyn wedi arwain yn ddiweddar at y newidiadau yn y seilwaith i wella dibynadwyedd y systemau'n sylweddol. Cyflwynwyd offer clipio Senedd.tv ac mae hyn wedi cael ei groesawu'n gyffredinol. Yn y dyfodol, rŷm ni hefyd yn bwriadu gwneud y trafodion yn fwy hygyrch drwy ddefnyddio technoleg sy'n troi llais yn destun.