Darlledu Trafodion yn y Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:12, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn atodol. Rydych wedi codi dau bwynt yno, un sy'n newydd i mi—un nad yw wedi ei ddwyn i fy sylw o'r blaen—am ansawdd y sain fel arfer ar Senedd.tv, ac os nad yw hwnnw'n glywadwy, yna nid yw hynny'n ddigon da. Felly, byddaf yn sicrhau ein bod yn adolygu hynny ac yn sicrhau bod modd ei glywed, yn bendant.

Yna, ar fater mwy cyffredinol is-deitlo, is-deitlo yn ôl-weithredol ac is-deitlo byw, rydym yn buddsoddi yn y seilwaith sydd gennym ac yn y capasiti fideo sydd gennym er mwyn sicrhau bod is-deitlo'n haws yn y dyfodol. Mae is-deitlo byw, er hynny, yn enwedig is-deitlo'r ddwy iaith a siaredir yn y Cynulliad hwn yn fyw, yn dipyn o her o ran y dechnoleg, ond hefyd o ran cywirdeb yr hyn rydym yn ei ddweud, ac mae angen iddo fod yn gywir er mwyn parchu'r hyn a ddywedir gan yr Aelodau yma. Felly, mae'n amlwg yn rhywbeth a fyddai o fudd i lawer o bobl yn ein cymdeithas, ac yn beth da i'w wneud yn gyffredinol, felly rydym yn ystyried buddsoddi, ac yna datblygu a defnyddio technoleg is-deitlo fel bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad hwylus at yr hyn rydym yn ei ddweud ac yn ei benderfynu yn y lle hwn.