Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Fel y gwyddoch, ychydig iawn o fannau gwyrdd sydd ar ystâd y Cynulliad gan fod llawer o'r tir wedi'i balmantu neu'i darmacio. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau hyn, rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau amgylcheddol i greu cynefinoedd bywyd gwyllt ac i gynyddu nifer y peillwyr yn ardal Bae Caerdydd. Y fenter ddiweddaraf yw'r cychod gwenyn sydd wedi'u gosod ar do’r Pierhead, mae'n debyg.