Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20 ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol.
Fel y byddwch wedi'i weld yn y gyllideb ddrafft, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm o £57.023 miliwn o gyllideb, sy'n cynnwys £37.076 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £16.197 miliwn ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau a £3.75 miliwn ar gyfer eitemau nad ydynt yn arian parod ac nad oes gennym at ei gilydd unrhyw reolaeth drostynt.
Mae'r cynnydd y gofynnwyd amdano yn y gyllideb o fewn y swm a argymhellwyd gan y Pwyllgor Cyllid y llynedd ac yn unol â'r cynnydd i floc Cymru. Yng nghyd-destun gwaith parhaus ar Brexit a diwygio'r Cynulliad, mae hyn wedi golygu proses lem gyda thystiolaeth well ar gyfer blaenoriaethu prosiectau. Gallai peth gweithgaredd arfaethedig ein harwain i diriogaeth newydd, wrth gwrs, a chydag ail gam diwygio'r Cynulliad yn galw am gynyddu maint y Cynulliad, roeddem yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am adael y drws yn agored i gyllideb atodol o leiaf, pe na baem yn gallu diwallu'r galwadau o fewn y gyllideb gyfredol.
Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad, a'i Aelodau wrth gwrs, ac mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol. O ystyried nad oes llawer ohonom, a'r materion cymhleth rydym yn ymdrin â hwy yn awr, sef yn benodol, diwygio'r Cynulliad, effaith ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, rydym angen cyllideb sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi'r Aelodau drwy'r cyfnod hwn.
Mae ein strategaeth yn amlinellu'r gyllideb ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad hwn a blwyddyn gyntaf y Cynulliad nesaf. Un o'r nodau strategol yw ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo'r lle hwn, gan helpu ein hetholwyr i ddeall beth a wnawn a pham ei bod yn bwysig iddynt ddeall yr hyn a wnawn a'u hannog i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Ac rydym ar fin cynnal ein hetholiad cyntaf i'r Senedd Ieuenctid. Mae'r bleidlais yn agored, a bydd y canlyniadau yn hysbys ym mis Rhagfyr ar gyfer y bennod newydd a chyffrous hon yn ein hanes. A chredaf ei fod yn gwrth-ddweud y canfyddiad nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth pan glywch fod 450 o ymgeiswyr ledled Cymru yn sefyll yn yr etholiad a bod 23,000 o bobl ifanc wedi cofrestru i bleidleisio yn erbyn ein targed o 10,000, ac mae hynny'n fwy nag y mae rhai o Aelodau Cynulliad yr etholaethau yn ei gael. [Chwerthin.] O ddifrif, mae'n gam anferthol ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru.
Hefyd, mae gan y Cynulliad bwerau deddfwriaethol newydd, ac mae'n rhaid iddo eu defnyddio yn y ffordd orau ar gyfer darparu democratiaeth gref, gynaliadwy er budd pobl Cymru. Credwn, felly, fod hon yn gyllideb deg sy'n herio'r Comisiwn i ddefnyddio adnoddau'n ddoeth—dyna nod strategol arall—i raddau hyd yn oed yn fwy. Felly, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb hon a'i ymrwymiad parhaus i wella tryloywder prosesau ariannu'r Comisiwn, gan ein gwthio i wneud y gwaith a wnawn yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Rydym yn nodi bod y pwyllgor yn fodlon ar gynigion y gyllideb ddrafft fel y maent ac yn croesawu'r sylwadau bod newidiadau a gyflwynwyd yn nogfen y gyllideb ar gyfer 2019-20 yn cyfrannu at dryloywder yn ein proses gyllidebu. Ein nod yw parhau i arddangos y natur agored rydym wedi'i harddangos hyd yn hyn ac rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'r pwyllgor i sicrhau bod cyflwyniadau'r gyllideb, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn darparu gwybodaeth y byddai'r pwyllgor, ar ran y Cynulliad cyfan, yn dymuno ei gweld.
Gwnaeth y pwyllgor wyth o argymhellion, ac rydym wedi rhoi sylw i bob un yn ein hymateb. Roedd tri o'r argymhellion yn gofyn am ragor o wybodaeth ac eglurder ar feysydd penodol o'r gyllideb, gan gynnwys cost y Senedd Ieuenctid, ac yn sicr, maes o law, bydd gennym ddarlun llawer cliriach o'r costau cylchol, a bydd y rheini'n cael eu hamsugno i gynlluniau gwasanaethau yn y dyfodol yn hytrach na sefyll ar eu pen eu hunain yn y gyllideb fel y maent ar hyn o bryd.
Roedd dau o'r argymhellion yn ymwneud â staffio: roedd un yn ymwneud â chanfyddiadau'r adolygiad o gapasiti ac a fyddai cynllun ymadael gwirfoddol ar gyfer staff y Comisiwn yn sicrhau bod ein hadnoddau staff yn cael eu had-drefnu'n effeithiol o fewn y cap ar nifer y staff yn y dyfodol; ac roedd y llall yn edrych ar y gwaith parhaus a wneir mewn perthynas â rheoli salwch a throsiant staff. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac fel erioed, mae angen i'r Comisiwn sicrhau bod ganddo'r sgiliau cywir ar waith i barhau i gyflawni pob un o'n blaenoriaethau a'n gwasanaethau cymorth.
Roedd argymhelliad arall yn annog y Comisiwn i benderfynu ar ffordd gyson o gyflwyno'r niferoedd a'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer y dyfodol, ac mae hon yn egwyddor rydym yn ei rhannu fel Comisiwn mewn gwirionedd. Mae'r gyllideb wedi'i chyflwyno'n wahanol eleni, gan adlewyrchu pethau y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gofyn i ni eu gwneud yn y gorffennol. Felly, nid ydym eisiau cyflwyniad sy'n newid drwy'r amser ychwaith, oherwydd mae hynny'n gwneud y broses o wneud, ac egluro, cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn yn anodd.
Roedd y ddau argymhelliad olaf yn ymwneud â diwygio'r Cynulliad, ac effaith ariannol y ddeddfwriaeth arfaethedig—ein deddfwriaeth—yn benodol, ac asesiad effaith ariannol cysylltiedig o ddatblygiad y gwaith hwn. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid am gael gweld ein ffigurau alldro ar y gwaith hwn, a sut y gallai fod yn wahanol i ddarpariaeth y gyllideb wirioneddol, ac wrth gwrs, byddwn yn hapus i ddarparu'r wybodaeth honno pan fydd ar gael. Fel AC fy hun, rwy'n sicr yn croesawu asesiadau effaith ariannol manwl gyda llawer o dystiolaeth ac wedi'u hegluro'n dda.
Wrth gwrs, y newid mawr yn y cyflwyniad—wel, nid yn unig y cyflwyniad—yw'r defnydd o ffigurau dyfarniad y bwrdd taliadau. A lle nad yw swm llawn y dyfarniad wedi cael ei wario, ni chaiff ei wario ar flaenoriaethau eraill y Cynulliad; bydd yn aros yn y grant bloc. Yr ochr arall i'r geiniog, a rhywbeth y daeth y Pwyllgor Cyllid ei hun i'r casgliad hwn yn ei gylch mewn gwirionedd, yw na ddylid talu unrhyw gostau annisgwyl sy'n codi o'r dyfarniad, os oes rhai, o gyllideb weithredol y Comisiwn. Felly, os oes costau annisgwyl yn codi, ac os bydd gwariant y dyfarniad yn fwy na'r gyllideb a ddyranwyd, os na allwn reoli hynny o fewn cyllideb weithredol—os yw'n swm bach iawn—byddwn yn gofyn am gyllideb atodol.
Fel erioed, rydym yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella ein proses gyllidebu, ac yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan Aelodau. Yn y cyfamser, rwy'n hapus i gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn, ac yn ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored a thryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.