Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Rwy'n cytuno. Ac oes, mae yna rai rhagdybiaethau y gellir eu gwneud, ond wrth gwrs, fel y nododd Julie Morgan, gyda'r newyddion heddiw ynglŷn â beth sy'n digwydd yn y Cabinet yr eiliad hon, gallai'r holl ragdybiaethau hynny gael eu taflu yn yr awyr a'u hanghofio, oherwydd nid oes gennym unrhyw syniad. A dyna'r broblem fwyaf: nid oes unrhyw ymrwymiad i unrhyw agwedd ar hyn. Nid yw'r diffiniadau haniaethol lefel uchel yn dweud dim byd o gwbl. Ac mae Julie wedi tynnu sylw hefyd at y pryder a oedd gennym yn y gorffennol—ac rydym wedi codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar agweddau eraill ar Brexit—ynglŷn â'r ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru. Tynnodd Julie sylw at y ffaith bod cyfarfod yr wythnos diwethaf i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad, ond fe'i trefnwyd drwy Swyddfa Cymru, nid Llywodraeth Cymru, a daeth George Hollingbery i'n pwyllgor i siarad ynglŷn â masnach ac roedd yn cael trafodaethau archwiliadol gyda rhanddeiliaid, yn ôl yr hyn a ddywedodd, wedi'u trefnu drwy Swyddfa Cymru, nid Llywodraeth Cymru, ar agweddau ar fusnes yng Nghymru. Mae'n amlwg bod yr ymgysylltiad â sefydliadau datganoledig yn erchyll, ac mae'n rhywbeth y mae gwir angen mynd i'r afael ag ef ar lefel uwch o lawer—os gallwch chi, Nick, os oes gennych unrhyw ddylanwad yn Rhif 10, dywedwch wrthynt fod angen iddynt ymgysylltu â'r sefydliadau Cymreig. [Torri ar draws.] Mae'n bwysig iawn. Gallent ddweud wrthym ni hefyd, gallent.
Nawr, unwaith eto, mae'r adroddiad yn nodi'r diffyg ymgysylltiad hwnnw, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny am ein bod yn cynrychioli cymunedau, ardaloedd difreintiedig. Mae'r cymunedau hynny'n elwa o gyllid Ewropeaidd. Maent yn mynd i fod ar eu colled, ac eto nid yw Llywodraeth y DU i'w gweld fel pe bai ganddi ddiddordeb yn ein helpu ni i'w helpu hwy. Rydym yn gwybod y bydd Cymru'n colli arian; rydym yn gwybod na fydd rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael cyfle mwyach i gael buddsoddiad ariannol a chymorth; gwyddom nad oes unrhyw raglenni wedi'u nodi hyd yn hyn i gymryd eu lle. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU symud ymlaen gyda'r addewidion i bobl Cymru na fyddant yn colli arian yn awr neu yn y dyfodol.