Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 14 Tachwedd 2018.
A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd i'r hyn y teimlwn ei bod yn ddadl ardderchog? Pe bai gennyf geiniog am bob tro y clywais rywun yn dweud na ddylem fod geiniog ar ein colled, mae'n siŵr y gallwn dalu am beth o hyn fy hun. Ond mae'n tanlinellu'r ffaith mai dyma un o'r agweddau canolog mae'n debyg: y byddem yn hoffi gweld y difidend Brexit a addawyd i ni. Er mai annhebygol iawn y gwelwn hynny, yn sicr yn y tymor byr i'r tymor canolig, y realiti yw ein bod o leiaf yn disgwyl dal ein gafael ar yr hyn a gawsom yn flaenorol.
Y nodwedd allweddol arall a amlygwyd, wrth gwrs, oedd y diffyg manylion gan Lywodraeth y DU. Nid oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid pan wahoddwyd yr Ysgrifennydd Gwladol yn wreiddiol i ddod i roi tystiolaeth, ond efallai yr hoffech ystyried ai'r rheswm pam y gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwrtais oedd oherwydd nad oedd yn gwybod ei hun beth oedd y cynigion yn mynd i fod mewn gwirionedd. Yn wir, rydym yn edrych ymlaen, os oes ymgynghoriad yn mynd i fod, yn ôl y disgwyl, neu ryw fath o ddosbarthu gwybodaeth cyn y Nadolig, at gael gwybod ynglŷn â hynny fan lleiaf.
Wrth gwrs, unwaith eto mae'n codi'r pwynt a wnaeth Mick Antoniw am y diffyg ymgysylltiad, a soniodd Jane Hutt ac eraill am y diffyg ymgysylltiad sy'n nodwedd mor ddigalon o bob agwedd ar Brexit rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y bore yma, roedd aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar Fil Amaethyddiaeth y DU a mynegwyd pryderon yno ynglŷn â'r modd y mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn sugno rhai pwerau yn ôl i'r canol mewn perthynas ag ariannu hefyd, a gosod terfynau uchaf, ac ati.
Yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi cychwyn bellach—gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn ei sedd yno—i edrych ar y ffordd y mae cyllid i ffermydd yn cael ei ddyrannu ar draws y DU, gwelsom nad oedd gan Lywodraeth Cymru rôl ragweithiol yn y broses o edrych ar ddatblygu cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith penodol hwnnw. Felly, rwy'n credu mai testun pryder yw'r ffaith ein bod o bosibl yn gweld yr un duedd yma unwaith eto ar fater mor bwysig â rhaglenni cyllido olynwyr.
Wrth gwrs, mae David Rees a John Griffiths ac eraill wedi cyfeirio at y risg o dwll du cyllidol y gallem ei gweld lle bydd rhaglenni, cynlluniau a phrosiectau pwysig yn cael eu niweidio, gan effeithio ar gymunedau, busnesau, diwydiant, sefydliadau academaidd, ac ati, sy'n dibynnu'n fawr iawn ar lawer o'r arian hwn ar gyfer llawer o'u gwaith.
Cawsom ein hatgoffa gan Ysgrifennydd y Cabinet nad yw ronyn yn gliriach ynglŷn â bwriad Llywodraeth y DU y tu hwnt i 2021. Wel, gall fod yn siŵr o gefnogaeth ein pwyllgor i'r ddau beth allweddol a grybwyllwyd ganddo, yn yr ystyr ei fod yn mynnu cadarnhad gan Lywodraeth y DU fod arian yn dod yn lle cyllid Ewropeaidd yn y lle cyntaf, ond hefyd ein bod ni yma yng Nghymru yn cadw'r cyfrifoldeb am benderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio. Ac mewn gwirionedd, yn hynny o beth, rwy'n meddwl ei fod yn brawf gwirioneddol i ba raddau mewn gwirionedd y mae datganoli yn gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud, oherwydd os nad yw'n gwneud hynny, yn amlwg bydd cwestiynau sylfaenol i'w gofyn.
Wrth gloi, a gaf fi ddiolch hefyd i'r clerc a'r tîm yn y Comisiwn am y gefnogaeth ragorol a gafodd y pwyllgor ar hyd y ffordd wrth gyflawni'r gwaith hwn, a diolch i Aelodau'r Cynulliad sy'n aelodau o'r pwyllgor hefyd am eu gwaith? Gobeithio bod hwn yn gyfraniad pwysig i drafodaeth allweddol ac yn ffactor allweddol ar gyfer dyfodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn, nid yn unig yn ein perthynas â Llywodraeth y DU, ond yn sicr o ran ein gallu i sicrhau'r manteision rydym wedi gallu eu sicrhau yn hanesyddol drwy arian Ewropeaidd, a gadewch inni obeithio, os daw cynllun olynol, y bydd y cynlluniau hynny, ar ba ffurf bynnag, yn parchu'r egwyddorion a amlinellwyd yn ein hadroddiad ac yn ein galluogi i barhau â llawer o'r gwaith hwnnw. Diolch yn fawr.