Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Rwy'n ddiolchgar iddo am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y pwynt, ac fel Aelod o'r sefydliad hwn, rwyf eisiau cymaint ag y bo modd o ymreolaeth o fewn y sefydliad hwn, ond o dan reolau'r UE, ar y cynllun datblygu gwledig, er enghraifft, byddai Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion yn mynd yn ôl ac ymlaen i Frwsel er mwyn sicrhau cymeradwyaeth derfynol. Onid ydych yn derbyn fod yna elfen, ar sail y DU, ar gyfer cytuno ar rai o'r egwyddorion cyffredinol y gellir eu diffinio orau yn y maes amaethyddol fel fframweithiau ar gyfer y DU?