Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae Gweinidogion a swyddogion yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ar draws portffolios ar nifer o faterion sy’n ymwneud â Brexit. Un o’r materion hynny yw’r effaith bosibl ar borthladd Caergybi. Rydw i, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn eistedd ar Is-bwyllgor y Cabinet ar Drefniadau Pontio’r Undeb Ewropeaidd, sy’n trafod y cynlluniau i fod yn barod ar gyfer Brexit.