Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Gwnaf. Bydd band B ein rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol o £2.3 biliwn yn ein hystâd addysg o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac, yn amodol ar gymeradwyaeth achosion busnes, bydd holl awdurdodau lleol a cholegau Cymru yn elwa ar y buddsoddiadau hynny.