Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi esbonio'r sefyllfa yr wyf i'n credu yr ydym ni ynddi. Yn gyntaf oll, rwy'n credu y bu methiant llwyr o ran gwleidyddiaeth yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod hynny, gan ein bod ni wedi cael refferendwm yn 2016 ar syniad. Gall pobl weld nawr beth yw'r canlyniad, ac rwy'n credu bod pob cyfiawnhad dros ddweud wrth bobl, 'Nawr eich bod chi'n gwybod beth yw'r realiti, beth ydych chi eisiau ei wneud nawr?' Gellid gwneud hynny naill ai drwy etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus. Ond yr hyn sy'n eglur yw y byddai'n rhaid i'r bleidlais gyhoeddus honno gynnig y dewis i adael, ar ba sail i adael, neu, yn wir, i aros, ar sail yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr. Ni allaf weld, lle mae gwleidyddion yn San Steffan wedi methu, neu y mae Llywodraeth yn San Steffan wedi methu, bod unrhyw beth o'i le ar fynd yn ôl at bobl a dweud, 'Mae'r amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, beth ydych chi eisiau ei wneud nawr?' Os byddant yn dal i fod eisiau gadael, yna, wrth gwrs, mae ganddyn nhw'r cyfle i ddweud hynny. Ond rwy'n credu bod angen i ni ymddiried yn y bobl yn hyn o beth.