Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Y rheswm pam yr ydym ni wedi dewis partneriaeth strategol i ddarparu prosiectau addysg MIM yw ei fod yn caniatáu i werth cyfalaf prosiectau unigol fod yn is o lawer nag y byddent o dan gaffael unigol. Felly, rydym ni'n annog, wrth gwrs, bwndelu i ddigwydd er mwyn i'r gost ostwng, ymhlith rhesymau eraill. Rhoddir y cyfle i bartner strategol llwyddiannus ddarparu'r biblinell gyfanredol o gynlluniau addysg MIM—mae hynny hyd at £500 miliwn mewn gwerth—ac mae hynny'n cynrychioli ffordd effeithlon a hyblyg o ddarparu cynlluniau sengl neu mewn sypiau bach ar lefel leol sydd â gwerthoedd mor isel â £15 miliwn, oherwydd, heb hynny, byddai angen i bob awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach unigol gynnal proses gaffael llawn ar gyfer pob un o'i brosiectau MIM unigol, sy'n anymarferol ac yn cymryd llawer o amser. Byddem yn annog awdurdodau lleol, wrth gwrs, i fabwysiadu dull bwndelu fel bod eu costau eu hunain yn cael eu gostwng ac, yn ail, wrth gwrs, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu darparu prosiectau na fyddai'n cael eu darparu fel arall yn ôl pob tebyg, gan eu bod yn llai o ran maint.