Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Gyda chryn anhawster, oherwydd bu problemau enfawr, fel y gallwn weld. Rwy'n falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud yr ymddiheuriadau y mae wedi eu gwneud. Roedd wedi cael ei effeithio gan storm Callum ac mae wedi etifeddu fflyd braidd yn hen. Ond fe wnaethom ddweud—roeddem ni'n onest ar y dechrau—y byddai'n cymryd cryn amser i newid y trenau yr oeddem ni eu heisiau a chael y math o wasanaeth yr ydym ni eisiau ei ddarparu i bobl Cymru.