Diogelu Swyddi yn Ffatri Schaeffler yn Llanelli

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae wedi ei wneud ar ran y gweithwyr hynny? Rydym ni wedi cynnal trafodaethau gyda Schaeffler, a derbyniwyd cynnig o ddull dwy haen i gynorthwyo'r cwmni. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddechrau mis Rhagfyr i ddatblygu tasglu gydag aelodau o dîm rheoli Schaeffler, ac mae'r cyfnod ymgynghori yn dal i fod yn weithredol, wrth gwrs, tan ddechrau mis Ionawr. Bwriad y cymorth, wrth gwrs, yw helpu'r rhai sy'n gweithio yno ar hyn o bryd ac i weld pa ddefnyddiau manteisiol ar gyfer cyflogaeth a allai fod i'r safle yn y dyfodol.