Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Wel, fel y mae ef yn ei ddweud, nid cau ysgolion yw amcan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; amcan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw darparu safleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddysgu ynddynt. Gwn, wrth gwrs, bod hynny wedi golygu mewn llawer o rannau o Gymru bod ysgolion newydd wedi cael eu hadeiladu a bod ysgolion presennol wedi cael eu cau am sawl rheswm. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, na allaf wneud sylwadau ar gynnig penodol sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg, ond rydym ni'n falch o'r ffaith bod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi darparu adeiladau newydd ac adeiladau wedi'u hailwampio i gynifer o blant a phobl ifanc ledled Cymru.