Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ymddangos ei fod yn credu bod pobl sy'n byw mewn fflatiau preifat yn talu ardrethi busnes. Dydyn nhw ddim. Maen nhw'n talu treth gyngor, yn union fel y mae myfyrwyr yn ei wneud. Nid oes unrhyw wahaniaeth. Felly, ni allaf weld y pwynt y mae'n ceisio ei wneud yn y fan yna. Os bydd rhywun yn prynu fflat mewn bloc o fflatiau sydd newydd gael ei adeiladu, maen nhw'n talu treth gyngor, nid ardrethi busnes.