Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 20 Tachwedd 2018

Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi yn fawr iawn mewn addysg ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cadw'r maint sy'n cael ei hala ar addysg yn uchel. Er enghraifft, os edrychwn ni ar beth rydym ni wedi ei wario ar addysg, rydym ni'n gallu gweld bod y gwario wedi mynd lan dros y blynyddoedd—1.8 y cant yn 2017-18, a hwnnw yw'r mwyaf o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, fod yna fwy o alw am addysg Gymraeg, sy'n rhywbeth i'w groesawu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, drwy'r cynlluniau sydd gyda nhw, sicrhau bod y galw'n cael ei ateb, a hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n moyn sicrhau bod yr athrawon yna er mwyn i'r ysgolion allu ffynnu a thyfu yn y pen draw. Rydym ni'n mynd i fuddsoddi, wrth gwrs, mewn addysg Gymraeg ac rydym ni'n mynd i weithio gyda'r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y cynlluniau sydd gyda nhw yn gynlluniau sy'n gryf.