Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mi fydd gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu mewn uwchgynhadledd y penwythnos yma os ydy'r cytundeb drafft ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio iddyn nhw. A ydych chi'n credu ei fod o'n gweithio i Gymru?