Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd unrhyw ddyfarniad gan y Goruchaf Lys yn cael effaith ar Gymru wrth gwrs. Gadewch i ni ddweud, er enghraifft, pe byddai'r Goruchaf Lys yn dweud bod gan yr Albanwyr y pŵer hwnnw, yna byddai hynny'n ein cynnwys ninnau hefyd. Ond os bydd yn dweud nad oes unrhyw bŵer i wneud hynny, nid oes gan yr Albanwyr ddim, ac mae gennym ni gytundeb. Dyna'r mater yn y fan yma. Mae gennym ni gytundeb rhynglywodraethol y daethpwyd iddo gan ddau barti. Rhan o'r cytundeb hwnnw oedd diddymu'r Ddeddf parhad. Os na fyddwn yn gwneud hynny, byddwn wedi torri'r cytundeb, ac mae hynny'n golygu wrth gwrs ein bod ni wedi dangos ewyllys drwg cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn a chyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn. Mae'n werth cofio hefyd, wrth gwrs, y daethpwyd i gytundeb ar ôl misoedd lawer iawn o drafod, ac nid yw'r cytundeb hwnnw'n rhywbeth y gellir ei daflu i ffwrdd yn ddi-hid. Nawr, gwn ei fod ef o'r farn nad yw'n hoffi'r cytundeb. Rwy'n deall hynny; fe'i gwnaed yn eglur yn y Siambr hon yn y gorffennol. Ond mae gennym ni gytundeb fel Llywodraeth i amddiffyn Cymru, ac rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y cytundeb hwnnw'n cael ei anrhydeddu, ar ein hochr ni o leiaf.