Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu mai pompren a ddefnyddir yn bennaf yn y Blaid Geidwadol, onid e, i ymdrin â newidiadau mewn arweinydd? Bydd unrhyw nodyn neu nodiadau y byddaf i'n eu gadael yn electronig, wrth gwrs. Rydym ni, wrth gwrs, yn symud tuag at fod yn Llywodraeth ddi-bapur.
O'n safbwynt ni, byddwn bob amser yn ceisio defnyddio'r gyfundrefn ardrethi annomestig mewn ffyrdd arloesol a llawn dychymyg. Rydym ni wedi gwneud hynny, wrth gwrs, gyda'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a gynorthwyodd cynifer o fusnesau ledled Cymru, a byddwn yn edrych i weld beth allai fod yn bosibl yn y dyfodol, yn dibynnu, wrth gwrs, ar ba gyllid sy'n cael ei roi ar gael drwy'r grant bloc.