Mynediad i Lawfeddygon Orthopedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:10, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydym ni'n aml yn clywed yn ystod cyfnod y gaeaf am lawdriniaethau orthopedig a llawdriniaethau eraill a drefnwyd yn cael eu canslo oherwydd pwysau'r gaeaf. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd y trefniadau a roddwyd ar waith gan y byrddau iechyd lleol a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar gyfer y gaeaf hwn yn osgoi'r lefelau hynny o ganslo yr ydym ni wedi eu gweld yn y gorffennol?