Part of the debate – Senedd Cymru am 7:32 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Eitem 11 yw'r cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ynghylch Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 40, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.