Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Mae'n nodweddiadol wrth ymdrin â negodiadau Brexit Llywodraeth y DU fy mod i'n rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yng nghanol yr argyfwng gwleidyddol gwaethaf a welais. Fel yr egluraf, mae'n argyfwng y gellid bod wedi ei osgoi. Mae'n argyfwng sydd wedi'i wreiddio mewn cyndynrwydd i fod yn onest am y cyfaddawdu anodd sydd ei angen yn y negodiadau, ac amharodrwydd i sicrhau consensws eang, gan gynnwys gyda'r llywodraethau datganoledig, ynghylch sut i ymdrin â'r heriau digyffelyb o adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, mae gennym ni'r Brecsitwyr digyfaddawd yn y Blaid Geidwadol sydd wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio sicrhau nad oes cytundeb, sy'n ceisio dwysáu'r argyfwng gwleidyddol ymhellach gydag etholiad arweinyddiaeth.
Heddiw, Llywydd, fe hoffwn i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ac amlinellu'r pethau nesaf y mae angen eu gwneud, a hynny ar fyrder, gan Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i wahaniaethu rhwng y cytundeb ymadael a'r berthynas economaidd yn y dyfodol y bydd angen ei hegluro yn y datganiad gwleidyddol. Mae angen dirfawr am nifer o'r agweddau ar y cytundeb ymadael. Mae sicrhau'r cyfnod pontio yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi cyrraedd dibyn ymhen dim ond pedwar mis. Bydd amddiffyn hawliau dinasyddion yn sicrhau statws dinasyddion yr UE sydd wedi dewis byw yma, gan gyfrannu at ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a hefyd rhai o wladolion y DU sydd wedi dewis byw a gweithio neu ymddeol mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae'n warthus bod Llywodraeth y DU wedi defnyddio dinasyddion yr UE a'r DU fel gwystlon tactegol yn yr hyn sy'n gêm wyddbwyll o wleidyddiaeth plaid.
Rydym ni'n llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau cytundeb Dydd Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon i wneud yn siŵr nad yw Brexit yn peryglu'r heddwch a'r ffyniant a ddaeth i Ynys Iwerddon yn sgil y cytundeb. Fel yr wyf i wedi sôn hyd syrffed yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mae'r materion trawsffiniol ar Ynys Iwerddon wrth wraidd Brexit ac maen nhw'n dangos methiannau'r cytundeb diweddaraf a rhai Prif Weinidog y DU. Rydym ni'n deall, o gofio dihidrwydd peryglus rhai yn y Blaid Geidwadol ynghylch cytundeb Dydd Gwener y Groglith, bod ar 27 aelod yr UE angen sicrwydd cadarn na fydd y ffin galed yn dychwelyd mewn unrhyw ffordd. Mae elfennau o'r cynllun ôl-stop yn broblemus ar y gorau, ond ni fyddai angen eu gweithredu fyth pe byddai Llywodraeth y DU wedi croesawu ateb sy'n cydnabod pwysigrwydd y berthynas agosaf bosibl rhwng y DU gyfan a'r UE, heb fod yn aelod. Pe bai Llywodraeth y DU wedi arddel y safbwynt a amlinellwyd gennym ni ar y cyd â Phlaid Cymru bron i ddwy flynedd yn ôl ar gyfer perthynas economaidd yn y dyfodol a fyddai'n cynnwys mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac undeb tollau, ni fyddai fyth angen unrhyw gynllun ôl-stop. Ond yr hyn sydd gennym ni yn lle hynny gan Lywodraeth y DU yw datganiad gwleidyddol hollol annigonol.
Methiant gwirioneddol y cytundeb presennol yw'r diffyg cynnydd yn y datganiad gwleidyddol a diffyg eglurder, sy'n peri pryder. Beth mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf? Nid oes gennym ni syniad beth fydd perthynas y DU yn y dyfodol gyda'n partneriaid masnachu mwyaf o ran maint a dylanwad. Y rheswm am hyn yw bod y Prif Weinidog yn parhau gyda'i strategaeth fethedig o edrych tuag i mewn, gan ganolbwyntio ar reoli cythrwfl mewnol y Blaid Geidwadol ac nid canolbwyntio ar anghenion y DU yn ei chyfanrwydd a buddiannau Cymru a'r gwledydd eraill. Mae'r argyfwng gwleidyddol yn un o greadigaeth Llywodraeth y DU i gyd. Doedd dim rhaid i bethau fod fel hyn.
Mae'r Prif Weinidog wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf, yn anffodus, yn porthi disgwyliadau Brecsitwyr digyfaddawd milwriaethus, ideolegol yn ei phlaid ei hun, a does syndod yn y byd eu bod wedi eu siomi gan yr hyn y mae hi wedi ei gyflwyno. Nawr, yn rhy hwyr o lawer, mae'n rhaid iddi hi drechu'r rhai yn ei phlaid na wnaiff fyth gefnogi perthynas â 27 gwlad yr UE. Mae'n rhaid iddi wrando ar farn y gymuned fusnes, yr undebau llafur a'r llywodraethau datganoledig, ac wedyn fe allai hi ddechrau negodi'r cytundeb priodol â 27 gwlad yr UE.
Ym Mrwsel, mae 27 gwlad yr UE wedi datgan yn glir pe bai Llywodraeth y DU yn cefnu ar ei safbwyntiau cyfeiliornus ac yn cofleidio perthynas economaidd agosach—un a amlinellwyd gennym ni yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—yna gellir sicrhau cytundeb symlach, mwy cydlynol a ffafriol. Ac er y gwelwn ni safbwynt Llywodraeth y DU yn symud yn nes o hyd at un ni, drwy wneud hynny dim ond yn y modd mwyaf amharod—dan gicio a strancio—mae'r Prif Weinidog wedi colli pob mantais negodi y gallasai hi eu cyflawni.
Yn hytrach nag ystrydebau o dan benawdau pwnc, gyda'r nesaf peth i ddim ar faterion allweddol fel mudo yn y dyfodol a chymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon neu Erasmus +, mae angen i'r datganiad gwleidyddol fod yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn a chytûn gan y DU a 27 gwlad yr UE i berthynas yn y dyfodol sy'n seiliedig ar fod yn rhan hirdymor mewn undeb tollau a'r farchnad sengl ym mhob sector. Mae hyn yn cael ei gynnig. Mae Michel Barnier wedi sôn droeon mai ei hoff fodel ef yw 'Norwy plws', ond nid yw hyn wedi bod yn bosibl gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n benderfynol o wrthod cyfaddawdu.
Felly pa newid sydd ei angen, cyn y gallem ni hyd yn oed ystyried cefnogi'r cytundeb hwn? Wel, efallai cymharol ychydig yn y cytundeb ymadael ei hun, ar wahân i sicrhau na fydd angen byth am y cynllun ôl-stop. Ac os derbynnir ein cynnig o undeb tollau tymor hir, mae unrhyw achos damcaniaethol ar gyfer cynllun ôl-stop yn diflannu i raddau helaeth. Ond mae angen ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn ei hanfod a chael newid sylfaenol yn y meddylfryd er mwyn bod yn onest ynghylch y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwneud dewis clir i flaenoriaethu ein sefydlogrwydd economaidd dros y dôn gron o adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau a'n harian.
Ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm, does bosib, am drychineb economaidd a chymdeithasol o ymadael heb gytundeb. Mae angen inni weld datganiad gwleidyddol sy'n nodi bwriad y ddwy ochr i drafod perthynas hirdymor sy'n adlewyrchu'n glir y dewisiadau a gyflwynir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', rhywbeth nad yw bellach yn afrealistig o ystyried y safbwynt y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dechrau ei arddel. Byddai mynd ati fel yna yn gwneud y cynllun ôl-stop yn ddiangen a byddai'n rhoi sicrwydd i'n pobl a'n busnesau na fyddwn ni'n camu tuag at ochr dibyn arall ym mis Rhagfyr 2020. Ac, yn ymarferol, byddai hynny bron yn sicr yn ennill mwyafrif mawr yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae amser yn brin iawn tan y Cyngor Ewropeaidd, ond mae'r datganiad gwleidyddol yn amlwg yn waith ar y gweill. Yn dilyn fy nghais am gyfarfod brys yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ddoe, eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid eto ein barn ar y berthynas briodol yn y dyfodol gyda 27 gwlad yr UE.
Llywydd, penderfynir ar safbwynt terfynol Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r ffaith a fydd Llywodraeth y DU ar yr adeg hwyr hon yn gweld synnwyr ai peidio.