Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 27 Tachwedd 2018.
A dweud y gwir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith cwbl wych, ac mae 10 y cant o'r fflyd yn weithredol eto. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y dylid eu canmol am gyflymder eu hymateb. Yn amlwg, ceir problemau gwirioneddol gyda chadw trenau i weithredu nad ydyn nhw'n ddigon da, ac nid oes rhaid i mi eu hailadrodd i'r Aelod. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y fflyd yn weithredol eto. Fel y dywedais, mae'r cynllun adfer gweithredol ar waith; mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cael diweddariadau rheolaidd. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth i bobl Cymru cystal ag y gall fod wrth i ni gyrraedd yr hydref.