Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Wel, Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag ailadrodd yr hyn a ddywedais: wrth gwrs nad ydym ni'n gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r GIG fel gwasanaeth cyhoeddus rhad ac am ddim ar y pwynt o ddefnydd. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddefnyddio contractwyr preifat weithiau i ymateb i anawsterau gwasanaeth ac wrth gwrs rydym ni'n gwneud yn union fel yr awgrymodd y dylem ni ei wneud, sef hyfforddi'r nifer fwyaf o staff y gallwn yn y nifer fwyaf o leoedd hyfforddi y bu gennym ni erioed er mwyn cyflawni hynny. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n sefyll ochr yn ochr â'r Blaid Lafur ar lefel y DU yn hyn o beth. Mae preifateiddio'r GIG yn gwbl wrthun i ni, ac yn sicr nid dyna egwyddor na pholisi'r Llywodraeth hon.