Adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach?'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:34, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, mae dewis gwleidyddol Llywodraeth Dorïaidd y DU o gyni cyllidol yn achosi mwy a mwy o ofid a chaledi i'n cymunedau—tlodi cynyddol, digartrefedd a chysgu ar y stryd, ciwio mewn banciau bwyd, salwch meddwl a chorfforol. Hyn i gyd ym mhumed economi fwyaf y byd. Mae'r Athro Philip Alston, adroddwr y CU ar dlodi a hawliau dynol, newydd gyhoeddi adroddiad, sy'n hollol ddamniol, ynghylch natur ddideimlad ac angharedig polisïau Llywodraeth y DU, gan wneud i'r rhai sy'n agored i niwed dalu'r pris am ei methiannau. Ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar degwch yng Nghymru, sy'n dangos gwahaniaethu ac anfantais yn taro cymunedau tlotach, pobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n rheoli llawer o'r dulliau ar gyfer datrys y sefyllfa hon, ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau allweddol hefyd. Felly, arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach nawr sut y gall hi sicrhau'r pwyslais mwyaf manwl posibl ar fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau penodol, monitro a gwerthuso ar waith, ac ystyried ymhellach y materion yn yr achos dros ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles, o ystyried effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?