Gofal Iechyd yn y Gymuned yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:00, 27 Tachwedd 2018

Fe gofiwch chi, rydw i'n siŵr, bum mlynedd yn ôl, fe gaewyd nifer o ysbytai cymunedol yn y gogledd, gan symud i drefn newydd o ofal yn y gymuned trwy gyflwyno'r gwasanaeth home enhanced care—HECS yw'r acronym sy'n cael ei ddefnyddio—a oedd yn cael ei werthu fel cyfundrefn fwy effeithiol, a byddai rhywun yn disgwyl, felly, fod modd inni allu mesur unrhyw lwyddiant sydd wedi cael ei gyflawni yn y cyfnod yna. Ond mae'n glir erbyn hyn nad oes posib mesur llwyddiant neu fethiant yr approach newydd yma oherwydd nad oes yna ddim record gyson o faint o gleifion sydd yn derbyn HECS ar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; nid yw'r bwrdd yn gwybod faint o gleifion sy'n derbyn HECS ar hyn o bryd; nid oes dim record o gost y gwasanaeth yn cael ei chadw; ac er mai'r bwriad yw cadw claf ar HECS am ddim ond pythefnos, nid oes dim record lawn yn cael ei chadw o ba hyd y mae cleifion yn derbyn HECS. Yn wir, rydw i wedi gweld tystiolaeth fod rhai cleifion wedi derbyn HECS am dros 10 wythnos. Nawr, mae'n ymddangos i fi bod hyn yn llanast llwyr. Felly, pam bod eich Llywodraeth chi wedi caniatáu i ogledd Cymru gael trefn newydd o ofal iechyd heb sicrhau bod modd i fesur llwyddiant neu effeithlonrwydd y broses honno, ac a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n hyderus bod y gyfundrefn newydd yma'n gweithio?