Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn. Fodd bynnag, canfu adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?', mewn prentisiaethau, bod gwahanu cryf ar sail rhyw yn parhau, bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a bod cynrychiolaeth pobl anabl yn arbennig o isel. Beth mae'r Prif Weinidog dros dro—eich Llywodraeth chi—yn ei wneud i fynd i'r afael â gwahanu ar sail rhyw ac i hybu rhagolygon cyflogaeth lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl drwy'r system brentisiaeth yn y wlad hon?