Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:43, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn ôl ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon bod eich Llywodraeth yn gwrthwynebu preifateiddio yn y GIG yn llwyr gan gymharu hynny â'r sefyllfa yn Lloegr. Mewn gwirionedd, polisi'r Llywodraeth pan benodwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog i ddechrau oedd diddymu'n raddol y defnydd o'r sector preifat yn llwyr erbyn 2011. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd heddiw i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn caniatáu i ddarparwyr sector preifat gynyddu eu dylanwad yma yng Nghymru?