Tagfeydd yng Nghasnewydd a'r Cyffiniau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:10, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn, ac fel y dywedais, pwysleisiais fod astudiaethau mannau cyfyng wedi'u cynllunio i ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd—nid adeiladu ffyrdd yn unig, ond popeth, o drafnidiaeth gyhoeddus i deithio llesol. Mae angen cyfres lawn o fesurau i leihau tagfeydd yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, nid obsesiwn ag un rhan o hynny.