Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi siarad am funud a hanner cyn i chi sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddadl hon yr wythnos nesaf, fel yr awgrymwyd gennych, rwy'n credu, mewn sesiwn flaenorol. Rwy'n meddwl tybed, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi gweithio mor galed i sicrhau nad yw'n rhagfarnu ei safbwynt fel y gall ystyried yr ymchwiliad mewn modd diduedd ac yna gwneud y penderfyniad cynllunio, onid yw'n bwysig ein bod yn caniatáu iddo wneud y penderfyniad cynllunio hwnnw, hyd yn oed os oes rhaid i Brif Weinidog newydd yn Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedyn, benderfynu a ddylid gwario'r arian ar fwrw ymlaen â'r caniatâd hwnnw os yw'n ei roi?