Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn ddiweddar, gan wneud yn siŵr ein bod ni mor gydnerth â phosibl wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf. Derbyniwyd cynlluniau darpariaeth y gaeaf integredig gan bob bwrdd iechyd, ac mae swyddogion, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnynt yn ofalus, a darparwyd adborth i hysbysu gwelliant pellach i'r cynlluniau cyn cyfnod y gaeaf. Rydym ni mor ffyddiog, felly, ag y gallwn fod, ein bod ni'n barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, ond bydd yr holl Aelodau yn ymwybodol o'r pryderon a'r straen y gall y gaeaf eu hachosi i'r GIG, ac efallai y byddai'n ddoeth i bob un ohonom ni wneud yn siŵr bod ein hetholwyr yn cael y neges y dylen nhw fynd at y darparwr gofal iechyd priodol, y fferyllfa gymunedol, pan fo hynny'n briodol, y meddyg teulu, pan fo hynny'n briodol, a pheidio â mynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys pan fydd ganddyn nhw broblemau eraill, fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n cael gaeaf mor ddidrafferth â phosibl.