Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Fel y dywedais, mae'r Llywodraeth mewn proses gyfreithiol; nid fy lle i yw amharu ar y broses gyfreithiol. Mae'r broses gyfreithiol yn broses sefydlog yr wyf i wedi ei hesbonio ar sawl achlysur; rwy'n hapus i'w hesbonio eto. Y rheswm y cymerais i ychydig o amser i gyfeirio at yr M4 oedd y ffaith fy mod i'n credu bod angen i'r Aelodau ddeall bod hon yn amrywiaeth o fesurau; mae cyfres o bethau sy'n digwydd ar draws y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal honno yn ogystal â ledled Cymru, ac nid datblygu obsesiwn gydag un prosiect yw'r sefyllfa yr ydym ni eisiau bod ynddi o reidrwydd. Mae'n brosiect pwysig iawn, wrth gwrs ei fod. Ceir proses gyfreithiol yr ydym ni ynddi, mae'r broses gyfreithiol yn ddiwrthdro, mae'n rhaid i ni ei dilyn i'w chasgliad, beth bynnag fydd hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cymryd rhan yn y ddadl pan fydd hi'n cael ei chynnal.