Part of the debate – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Arweinydd y tŷ, a gaf i edrych eto ar drafodaeth yr M4 sydd newydd gael ei chynnal yng nghwestiynau’r Prif Weinidog? Yn ystod cyfarfod y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o’n blaen ni. Amlinellodd yn glir mai penderfyniad y Prif Weinidog a’r Prif Weinidog yn unig yw’r penderfyniad cynllunio. Nid penderfyniad y mae'r Llywodraeth gyfan yn gyd-gyfrifol amdano yw hyn, sef yr hyn y gwnaethoch chi ei fynegi yn eich ymateb inni. Ond, dywedodd hefyd wrth aelodau’r pwyllgor bod cred o fewn y Llywodraeth y byddai dadl ar 4 Rhagfyr, ac y byddai’r adroddiad ar gael i Aelodau o'r sefydliad hwn yr wythnos hon. Mae'n adroddiad 580 o dudalennau, fel yr wyf yn deall. Chi yw arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth. Os bydd y ddadl honno yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf, byddai’n rhaid ichi gyflwyno’r ddadl honno heddiw. A wnewch chi gadarnhau a fydd y ddadl honno yn cael ei chyflwyno heddiw, ac y bydd yr adroddiad yn cael ei ryddhau fel y gall yr Aelodau edrych drosto yn ystod y dyddiau nesaf? Neu, ai'r gwir amdani yw na fydd y ddadl hon yn gweld golau dydd yn awr o dan y Prif Weinidog presennol hwn, ac na fydd y ddadl honno yn debygol o gael ei chynnal yma cyn tymor y gwanwyn? Fel y dywedais, mae cymaint o nodiadau ac ymatebion cyferbyniol i gwestiynau y mae angen eglurder arnom. Dyma’r prosiect seilwaith mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ef, neu y bydd wedi ymgymryd ag ef o bosibl, ers 1999. Rhwng Ysgrifennydd y Cabinet, chithau, a’r Prif Weinidog ei hun, mae cymaint o wahanol sefyllfaoedd yn ymffurfio fel ein bod ni, yr Aelodau, angen eglurder gan y Llywodraeth yn ystod y camau gweithredu.
Byddwn yn gofyn hefyd, yng ngoleuni’r profiadau gwael parhaus y mae pobl yn eu cael ar y rheilffyrdd, i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun gyflwyno datganiad sy'n amlinellu yn llwyr yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y broses o drosglwyddo rhwng Trenau Arriva a gweithredwr y fasnachfraint newydd. Ceir tystiolaeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun a chan Drafnidiaeth Cymru, nad dyna oedd y trosglwyddiad mwyaf delfrydol y gellid ei wneud. Ond eto, roedd y dyddiad hwn yn adnabyddus i lawer o bobl; roedd yn hysbys i bawb, mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y datganiad a gawsom ni yr wythnos diwethaf gan Drafnidiaeth Cymru yn cyfeirio at y ffaith nad oedd y storfeydd ar gyfer darnau sbâr yr hyn y dylent fod yn sicr, a'u bod yn annigonol. Mae angen inni ddeall, gan ein bod ni i gyd yn cael negeseuon e-bost, gohebiaeth dros y ffôn, profiadau wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd sy'n teithio ynghylch y sefyllfa erchyll y mae llawer o bobl wedi eu gadael ynddi. Nid yw'n deg ar y cyhoedd sy’n teithio, heb sôn am Aelodau’r sefydliad hwn, na allwn ni roi'r atebion iddyn nhw y maen nhw’n eu haeddu .
Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a ddaeth gan Drafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf. Ond, pe bai hon yn stori newyddion gadarnhaol, rwyf yn siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ynghylch y trosglwyddiad cychwynnol a’r chwe wythnos yn y cyfamser. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda sy’n amlinellu'r union gyfrifoldebau y mae’r Llywodraeth wedi ymgymryd â nhw i ddatrys y broblem hon?