Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Fel y dywedais, y sefyllfa lle nad yw'r stoc ar y cledrau—fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau'r Prif Weinidog, mae gennym ni 10 y cant o'r stoc honno ar waith eto. Ac mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, fe wnaethom ni ddweud y byddwn yn gwneud trefniadau i Drafnidiaeth Cymru roi diweddariad wythnosol i'r Aelodau ar y sefyllfa ledled Cymru, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr Aelod yn cael ei gynnwys yn hynny, yn amlwg.