Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Rydych chi'n dweud mai un o nodweddion diffiniol gwaith y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de fu ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, gan bwysleisio pwysigrwydd siarad gyda a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Wrth gwrs, mae cyd-gynhyrchu, sydd mewn deddfwriaeth yng Nghymru, yn mynd ymhellach, i raddau helaeth iawn o ran y ddyletswydd gynaliadwyedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hynny'n cynnwys cyd-ddylunio a chyd-ddarparu gwasanaethau, rhannu grym a gweithio mewn partneriaeth gyfartal. Felly, a yw hyn yn mynd y tu hwnt i siarad a gwrando, ac, os felly, sut ydych chi'n sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu yn seiliedig ar gydraddoldeb grym gyda phobl leol, cymunedau lleol a sefydliadau lleol?
Wrth gwrs, mae gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sydd, yn anffodus, wedi parhau i gynhyrchu'r gwerth isaf o ran nwyddau a gwasanaethau y pen o holl ranbarthau neu ardaloedd y DU, yn cynnwys pedair sir yn y gogledd, ac mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â rhai yng Nghymoedd y de yn unig. Pam hynny? Neu a yw hynny oherwydd eich bod yn credu, o bosib yn gywir, bod y mentrau yn y gogledd y mae'r fargen dwf, y weledigaeth dwf, y cynnig twf yn seiliedig arnynt, yn cyflawni hynny? Ac, os ydych chi yn credu hynny, ac mai dyna'r rheswm pam mae pedair sir y gogledd wedi'u heithrio, pa ystyriaeth a roesoch chi i'r ffordd y mae chwe sir y gogledd, y sector busnes a'r byd academaidd wedi dod at ei gilydd a, gydag un llais, wedi cyflwyno eu cynigion ar gyfer y rhanbarth hwnnw a chau'r bwlch ffyniant yn y fan yna?
Mae adroddiad cynnydd 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' 2018 Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid imi ddweud, yn dipyn o gymysgedd dethol o bolisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru wedi eu taflu ynghyd. Fel y mae'n dweud yn gwbl briodol:
mae angen mwy o swyddi da a chyfleoedd i gael sgiliau, a'ch bod wedi ymrwymo i archwilio'r dewisiadau i dargedu buddsoddiad a chreu ardaloedd canolbwynt strategol newydd, yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad fel ardaloedd lle mae arian cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd.
Felly, sut mae'r sector preifat wedi'i gynnwys o fewn hynny, nid yn unig fel rhywun i siarad ag ef a gwrando arno, ond yng nghyd-destun, fel yn y gogledd, lle cydweithir ar yr atebion hynny ar gyfer darparu rhywbeth ar y cyd?
Rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad hwn at adran wybodaeth a gwasanaethau dadansoddol Llywodraeth Cymru gan nodi ardaloedd ledled Cymoedd y de lle'r oedd y mwyaf o botensial economaidd. Unwaith eto, yn yr un modd, sut maen nhw wedi gweithio gyda'r sector busnes a'r trydydd sector i lunio'u casgliadau, neu a ydyn nhw wedi gwneud hyn drwy ddim ond siarad a gwrando ar bobl?
Rydych chi'n cyfeirio at gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Wrth gwrs, rydym ni'n deall nad oes disgwyl iddo gael ei gyflwyno tan y flwyddyn nesaf, er bod amrywiaeth o raglenni cyflogaeth bellach ar waith yng Nghymru, megis y rhaglenni a gyflwynir drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau a Remploy. Rydym ni'n gwybod o ymatebion blaenorol yn y Siambr hon gan Aelodau Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi cael mewnbwn i'r rhaglenni hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni os a sut, felly, mae'r cynlluniau Prydeinig hynny sy'n gweithredu yng Nghymru gyda mewnbwn Llywodraeth Cymru wedi cael neu sut fyddan nhw'n cael eu hymgorffori i'r gwaith yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'?
Rydych chi'n cyfeirio, yn yr adroddiad, at Glynrhedynog yn datblygu canolfan ag amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, ac rwyf wrth fy modd yn clywed hynny—mae hynny'n swnio'n wych. Ond a wnewch chi roi ystyriaeth i waith Dr Karen Sankey yn Wrecsam, y mae adran iechyd Llywodraeth Cymru, rwy'n gwybod, wedi cyfeirio at ei gwaith, sydd wedi datblygu model canolfan gymunedol i ddwyn ynghyd a mynd i'r afael ag anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol y bobl yn y gymuned honno, gan gynnwys y rhai ar y strydoedd, fel model arfer gorau?
Rydych chi'n cyfeirio at weithredwyr cyfrif ar gyfer ysgolion uwchradd ac at weithio gyda Gyrfa Cymru. Unwaith eto, sut fydd hynny'n ymdrin â'r pryder y soniwyd amdano pan nad oedd Gyrfa Cymru yn gallu hwyluso disgyblion mewn ysgolion i ymweld â gweithleoedd er mwyn cael profiad gwaith ymarferol mwyach? A ydym ni'n sôn am ddim ond o fewn ysgolion, ac, os felly, sut y bydd hynny'n integreiddio gyda'r busnesau eu hunain?
Dau gwestiwn byr iawn, iawn yn weddill, ac yna byddaf wedi gorffen. Metro de Cymru—rydych chi'n cyfeirio at raglen hirdymor. Pa mor hirdymor, mewn gwirionedd, ydych chi'n ei olygu yn hyn o beth, mewn trafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau? Oherwydd rydym ni wedi clywed sôn am y pethau hyn, ac maen nhw'n swnio'n gadarnhaol iawn, ac, er nad wyf i'n byw yn y de, rwy'n dymuno'r gorau i'r bobl sy'n byw yno, ond pryd ydych chi'n rhagweld y caiff hyn ei weithredu mewn gwirionedd?
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad at y targedau o 20,000 o dai fforddiadwy—wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys prynu cartref, mae'n cynnwys rhent canolradd, a darpariaeth gan ystod o ddarparwyr. Felly, pa asesiad ar y cyd o anghenion tai sy'n greiddiol i hyn, nid yn unig o ran canfod nifer yr unedau sydd eu hangen ar bobl yn y boblogaeth, ond y math a'r amrywiaeth o eiddo, boed hwnnw'n rhent cymdeithasol, rhent canolraddol, prynu'n rhad, am bris llawn y farchnad neu fel arall? Diolch.