Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Nid wyf yn argyhoeddedig bod y datganiad hwn yn cyflwyno unrhyw beth newydd i'n sylw ni heddiw, ac rwy'n credu mai'r dystiolaeth o hynny yw'r ymosodiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet rai munudau'n ôl. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ymddangos eich bod wastad yn ymosod pan nad oes gennych chi unrhyw atebion.
Beth bynnag, fe wnaethoch chi orffen eich datganiad heddiw drwy ddweud bod y cynllun cyflawni sydd ger ein bron heddiw yn cynnwys holl adrannau Llywodraeth Cymru a holl bortffolios eich cydweithwyr yn y Cabinet, felly fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ofyn rhai cwestiynau heddiw ynglŷn â sut mae agenda polisi ehangach Llywodraeth Cymru yn effeithio ar yr uchelgeisiau a nodwyd gennych chi yn eich cynllun.
Elfen bwysig o gefnogi blaenoriaeth 1 y cynllun cyflawni, sef creu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, yw, fel y soniwch chi, cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'r cynnig hwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed am 48 o wythnosau'r flwyddyn. Fel y mae fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi dadlau'n gyson, drwy gyfyngu'r cynnig o ddarpariaeth gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn unig, rydych chi'n creu rhwystr sylweddol arall i rieni economaidd anweithgar rhag dychwelyd i'r gwaith. Mae'r comisiynydd plant wedi cefnogi hyn hefyd, a dywedodd y bydd plant rhieni nad ydyn nhw'n gweithio yn llithro ymhellach fyth ar ôl eu cyfoedion os cânt eu heithrio o'r ddarpariaeth hon.
Diben eich targed o helpu 7,000 o bobl ddi-waith ac economaidd anweithgar yn y Cymoedd i gael gwaith oedd er mwyn ichi allu dod â'r rhannau hynny o'r awdurdodau lleol dan sylw sy'n cynnwys y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd cynnig gofal plant eich Llywodraeth yn cefnogi'r nod hwn. Yn wir, bydd yn gwneud y sefyllfa yn y Cymoedd hyd yn oed yn waeth, gan arwain at hyd yn oed mwy o deuluoedd yn cael eu hesgeuluso. Felly, fel aelod o'r Llywodraeth, pa sylwadau a ydych chi wedi eu gwneud i'ch cyd-Aelodau i bwyso arnyn nhw i ehangu'r cynnig gofal plant i bob rhiant yng Nghymru?
Y broblem yn llawer o gymunedau'r Cymoedd yw nid nifer y swyddi, ond ansawdd y swyddi hynny. Mae'n ymwneud â natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny a'r ffaith bod llawer gormod ohonyn nhw yn swyddi ansicr. Mae'r targed o gefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith erbyn 2021, wrth gwrs, i'w groesawu. Fodd bynnag, heb ddod â diwydiannau newydd a datblygu'r rhai sy'n bodoli eisoes i dyfu ymhellach, mae'n bosib iawn y byddwch chi'n cefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith ar un llaw, ond gallai natur ansicr y farchnad lafur yn y Cymoedd arwain at golli'r swyddi hynny mewn mannau eraill yn yr un ardal. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi ffigur targed o faint o swyddi a gaiff eu sicrhau yn ystod y cyfnod hyd at 2021 hefyd?
Yr wythnos diwethaf, collodd Llywodraeth Cymru bleidlais yn y Cynulliad yn galw am ddim mwy o doriadau i addysg bellach a dysgu gydol oes, sector sydd wedi bod yn darged parhaus ar gyfer y toriadau, erbyn hyn, dros lawer iawn o flynyddoedd. Os ydym ni o ddifrif am wrthdroi'r dirywiad hirdymor yn economi Cymru a chodi sgiliau, incwm a chynhyrchiant, yna mae'r sector addysg bellach yn gwbl hanfodol. Bydd elfen fawr o agenda sgiliau cynllun cyflawni'r tasglu yn dibynnu'n helaeth ar gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, er enghraifft, a fydd yn gosod gofynion a disgwyliadau ar y colegau a'r sector dysgu a sgiliau ehangach fel partneriaid cyflawni hollbwysig. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, ni all neb ddwyn y maen i'r wal gyda'r teimladau a'r cynlluniau hyn pan nad yw'r cyllid ar gael i gefnogi'r blaenoriaethau hyn. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi fod arian ar gael i ddarparu'r hyfforddiant gofynnol i uwchsgilio gweithlu'r Cymoedd?
Nawr, rwy'n sicr nad oes angen imi esbonio i neb pa mor anodd yw hi i deithio ar reilffyrdd y Cymoedd ar hyn o bryd. Ni all hyn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Dyna pam rwy'n croesawu'r arian datblygu a sicrhawyd i gomisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd i hwyluso cyfleoedd teithio i'r canolbwyntiau strategol newydd. Yn benodol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i edrych ar welliannau yn y seilwaith yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r metro. Mae llawer o'r pwyslais gyda datblygiad y metro yn y Cymoedd ynglŷn â sut orau i gysylltu cymunedau yn y Cymoedd â Chaerdydd, yn hytrach nag ystyried sut yr ydym ni'n cysylltu'r Cymoedd â'i gilydd. Ni chynhwyswyd y syniad ar gyfer llinell gylch y Cymoedd yn ystod cam nesaf datblygiad y metro. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i sicrhau y bydd rhan o'r cyllid datblygu yn mynd tuag at ddichonoldeb parhau i ystyried creu llinell gylch ar gyfer y Cymoedd?