Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd sylweddol a wnaed ers y daeth y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i rym yn 2015. Mae'r ddau adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ers imi ymgymryd â'r portffolio hwn yn rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd hwn.
Mae ein strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd yn 2016 yn amlinellu chwe amcan. Cynlluniwyd yr amcanion hyn er mwyn galluogi cydymffurfio, i'r graddau y mae ein pwerau yn caniatáu, gyda Chonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a thrais domestig, neu Gonfensiwn Istanbwl. Mae'r fframwaith cyflawni, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Gorffennaf 2018, yn esbonio sut fyddwn ni'n gweithio gydag amrywiol adrannau'r Llywodraeth i gyflawni pob un o'r chwe amcan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu VAWDASV. Mae'n acronym amhosib, Dirprwy Lywydd, ond VAWDASV, fel y'i gelwir. Rydym ni eisiau gwella ymateb y sector cyhoeddus i'r materion hyn, a thrwy addysg, grymuso ac ymgysylltu, rydym ni'n herio agweddau ac ymddygiadau ym mhob haen o gymdeithas.
Mae angen inni gydweithio i amddiffyn y rhai sydd ar hyn o bryd yn dioddef VAWDASV. Mae ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol, er enghraifft, yn sicrhau, am y tro cyntaf, bod safonau wedi'u gosod ynglŷn â hyfforddiant i weithwyr proffesiynol i'w helpu i adnabod pwy sydd mewn perygl. Y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau drafft a chyflwyno hyfforddiant 'holi a gweithredu'. Mae 'holi a gweithredu' yn broses o ymholi penodol i'w arfer gan weithwyr proffesiynol rheng flaen. Mae'r hyfforddiant wedi ei ddatblygu gyda goroeswyr, ac felly mae'n seiliedig ar brofiadau y mae pobl wedi byw drwyddyn nhw. Mae ganddo'r potensial i newid ac i achub bywydau, ac mae adborth gan y gwaith mabwysiadu cynnar yn dangos ei fod yn gwneud hyn.
Rydym ni wedi hyfforddi dros 135,000 o bobl ledled Cymru drwy hyfforddiant e-ddysgu ac wyneb yn wyneb. Dyna 135,000 o weithwyr proffesiynol sydd yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n dioddef VAWDASV. Rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau ar gyfer arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o VAWDASV. Mae'r ffilmiau hyn wedi cael eu gweld dros 6,500 o weithiau. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc ac yn eu haddysgu ynghylch sut beth yw perthnas iach. Nod y gwaith hwn yw eu hatal rhag bod yn ddioddefwyr, neu hyd yn oed rhag cyflawni'r fath weithredoedd. Mae llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy gyfrwng prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cryfhau ein canllawiau ar gyfer ysgolion i gynnwys cysylltiadau i gefnogaeth briodol. Bydd hyn yn adeiladu ar ein canllaw arfer da o ran ymdrin ag addysg mewn modd cynhwysfawr, a hefyd ein canllawiau ar gyfer llywodraethwyr ysgol.
Bydd cyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2022 yn cynnig cyfle i ddarparu addysg rhywioldeb a pherthnasoedd mewn ffordd hollol wahanol i addysg ryw draddodiadol. Does dim rhaid i ysgolion aros neu gyflwyno hynny'n ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i wneud hynny cyn hynny.
Mae un o'm swyddogion yn cyd-gadeirio grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a BAWSO. Mae'r grŵp hwn wedi datblygu fframwaith cyflawni er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd fel y'i gelwir, gan ddarparu'r cymorth gorau posib i oroeswyr. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol hefyd yn cefnogi clinig lles menywod arbenigol cyntaf Cymru ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod.
Rydym ni'n gweithio o dan gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf i wella'r dull o weithio gyda'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Mae hyn yn cysylltu â'r fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith gwasanaethau tramgwyddwyr sydd newydd ei ffurfio yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhannu arferion rheolaidd, ac mae adolygiad tystiolaeth cyflym ynglŷn â beth sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Fis nesaf, byddaf yn lansio safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd i gefnogi gwasanaethau a chomisiynwyr i weithio'n ddiogel ac effeithiol. Rydym ni wedi cynnal ymarfer mapio o wasanaethau tramgwyddwyr yng Ngwent ac yn rhannu'r hyn a ddysgwyd ag ardaloedd eraill.
Rydym ni'n mynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw drwy ein hymgyrch cyfathrebu, Dyma Fi. Gall stereoteipio ar sail rhyw arwain at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, sydd wrth wraidd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni wedi seilio ein hymgyrchoedd ar sylwadau goroeswyr, a'u geiriau nhw, wedi eu lleisio gan actorion, sy'n darparu negeseuon grymus am effaith rhywun dim ond yn gofyn, 'Ydy popeth yn iawn?' yn ein hymgyrch Paid Cadw'n Dawel.
Mae gweithio gyda goroeswyr yn rhan annatod o'r darparu. Rydym ni eisiau i'r rhai hynny sydd â phrofiad bywyd o hyn gael llais wrth ddatblygu a darparu polisi, cyllid a deddfwriaeth. Dyna pam y byddwn ni'n treialu panel goroeswr cenedlaethol y flwyddyn nesaf ac yn gwneud mwy o waith ynglŷn â sut beth ddylai'r fframwaith ymgysylltu â goroeswr fod.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r wefan a'r llinell gymorth Byw Heb Ofn. Mae'r rhain yn rhoi cymorth cyfrinachol 24-awr, gwybodaeth a chyngor i fenywod, dynion a phlant sy'n cael eu cam-drin. Mae hefyd yno ar gyfer pobl eraill sy'n poeni ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr. Cefnogir dynion drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Rydym ni'n gweithio gydag ymgynghorwyr cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu dangosyddion cenedlaethol y byddant yn fodd o fesur cynnydd at ddibenion y Ddeddf. Byddwn yn ymgynghori ar y rhain erbyn diwedd y flwyddyn ac yn cyhoeddi'r dangosyddion terfynol erbyn mis Mai 2019.
Rydym ni wedi darparu canllawiau i gefnogi'r byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol yn gyntaf. Mae ein cynghorwyr cenedlaethol yn adolygu'r rhain ac yn adrodd yn ôl ar sut y gall hyn wella cyflawni. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n comisiynu adolygiad dan arweiniad arbenigol i ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ceisio defnyddio'r gorau o'r dulliau rhyngwladol yn sail i'r model yng Nghymru o gymorth i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig.
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arswydus o gyffredin, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae ein deddfwriaeth yn torri tir newydd, ond ni fydd dim yn newid dros nos; mae'r materion hyn wedi ymwreiddio'n rhy ddwfn. Rydym ni'n gwneud cynnydd, fodd bynnag, ac rwyf eisiau i'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y tair blynedd diwethaf ers cyflwyno'r Ddeddf gael ei gydnabod. Rwy'n benderfynol y bydd Cymru'n gwireddu ei huchelgais i fod y lle mwyaf diogel ar gyfer menywod yn Ewrop. Diolch.