Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Caiff fy niddordeb yn y pwnc hwn ei ysgogi gan y blynyddoedd lawer a dreuliais fel ynad heddwch, lle gwelais yn uniongyrchol effaith ofnadwy trais yn y cartref, nid ar y dioddefwyr yn unig, ond hefyd ar y teuluoedd. Felly, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad? Mae'n braf gweld y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i ddileu’r troseddau ffiaidd hyn. Croesawyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd yn ddarn o ddeddfwriaeth yr oedd angen mawr amdano. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi’n iawn cydnabod y nifer o ymyriadau a mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno ers y Ddeddf, gan gynnwys strategaeth genedlaethol a’i chwe amcan a gyhoeddwyd yn 2016, ac mae arweinydd y tŷ yn sôn am y llinell gymorth a’r wefan Byw Heb Ofn. Byddai cael ffigurau ynghylch effeithiolrwydd y ddau ymyriad hyn o ddiddordeb ynghyd â lefel y rhyngweithio gan ddioddefwyr â'r ddau wasanaeth ar-lein hyn.
Arweinydd y tŷ, ers blynyddoedd lawer, roedd trais yn y cartref yn cael ei anwybyddu gan yr heddlu a'r gymdeithas yn gyffredinol, gan ei weld fel ‘materion teuluol’ yn aml. Diolch byth, nad yw hynny bellach yn wir. Cydnabyddir bellach nad yw trais yn y cartref yn effeithio ar y teuluoedd yn unig, ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol. Mae pobl sy'n tyfu i fyny gyda thrais yn y cartref yn aml yn mynd â’r trais hwnnw gyda nhw i’w gweithgareddau cymdeithasol ehangach, ac mae'r rhai sy'n gweld trais yn y cartref yn rheolaidd yn llawer mwy tebygol o'i ystyried yn ymddygiad arferol ac maen nhw’n adlewyrchu hynny yn aml yn eu perthnasoedd domestig eu hunain.
Ffactor allweddol wrth amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref yw darparu ymyriadau i’w helpu nhw i ddianc o berthnasoedd o'r fath. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn siŵr os byddan nhw’n gadael amgylchedd camdriniol, y byddan nhw’n cael eu hamddiffyn rhag eu camdriniwr ac y bydd lloches ddiogel yn cael ei darparu ar eu cyfer nhw, ac nid ar eu cyfer nhw yn unig ond hefyd ar gyfer unrhyw blant sydd ganddyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hyderus hefyd y bydd eu sefyllfa yn cael ei deall ac y bydd y gyfraith yn gweithredu yn erbyn y drwgweithredwyr mewn modd priodol. Arweinydd y tŷ, mae’n rhaid inni sicrhau bod niferoedd digonol o lochesi i gymryd unrhyw, a phob, dioddefwr trais yn y cartref.
Arweinydd y tŷ, roeddech yn sôn mai Heddlu Gwent yw’r heddlu cyntaf yng Nghymru i gynnig cymorth arbenigol 24 awr i ddioddefwyr trais yn y cartref. Bydd ganddyn nhw, yn ystafell reoli’r heddlu, dîm o bedwar swyddog gwaith allanol pendant sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig ac a fydd yn gweithio gyda phobl sy'n dod ymlaen fel dioddefwyr trosedd o'r fath yn unig. Mae hyn yn ymateb cadarnhaol at y ffaith bod Heddlu Gwent yn derbyn tua 12,000 o alwadau trais yn y cartref y flwyddyn. Ond gwyddom, mae'n debyg, bod llawer mwy o ddioddefwyr allan yna sydd, oherwydd ofn dialedd, yn methu â chrybwyll camdriniaeth o'r fath. Y gobaith yw y bydd heddluoedd eraill yng Nghymru yn dilyn yr esiampl ragorol hon. Efallai y gall arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar le y mae heddluoedd eraill o ran hynny.
Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, yn Aelodau’r Cynulliad ac yn ddinasyddion cyffredin, gan helpu i ddileu'r arfer drwg yma. Mae cam-drin domestig yn drais a thrais o'r math gwaethaf, gan ei fod yn aml yn digwydd i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae’n rhaid inni anfon neges glir na oddefir hyn yn y gymdeithas yng Nghymru.