Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Mae'r adroddiadau yma, fel y dywedais i, yn benllanw sgyrsiau a chyfraniadau gan sefydliadau ac unigolion, ac mae'r prif gyrff llywodraethu wedi cyfrannu, gan gofio bod gennym ni dros 60 o gyrff llywodraethu ar yr holl amrywiol chwaraeon yng Nghymru, ac mae'r dystiolaeth yn adlewyrchu barn y rheini. Mae yna argymhelliad pendant i fuddsoddi yn Wrecsam yn yr adroddiad i alluogi datblygu'r amgueddfa yno yn amgueddfa bêl-droed. Ac mae'r argymhelliad hefyd yn mynd ymlaen yn y panel i sôn am banel arbenigol ar dreftadaeth chwaraeon i gryfhau gweledigaeth genedlaethol a fframweithiau yn codi o hynny. Ac yna mae'r argymhelliad pwysig bod yna gampau eraill yn haeddu sylw a bod yn rhaid ceisio ffyrdd eraill o wneud hynny yn hytrach na chreu rhagor o amgueddfeydd i wahanol fathau o chwaraeon.
Mae yna gyfeiriad penodol wedi cael ei wneud at yr awdurdod lleol yn Wrecsam yn yr adroddiad, ac mae'n amlwg nad mater i Lywodraeth Cymru benderfynu ffordd ymlaen ar ei phen ei hun ydy hwn. Rydw i wedi ceisio pob cyfle—ac rydw i'n cael llawer ohonyn nhw, wrth gwrs—i drafod o gwmpas achlysuron chwaraeon i geisio gweld beth yw'r farn a beth yw'r ymdeimlad yn gyffredinol yn y sector yng Nghymru.
Mae'r un peth yn wir gyda'r adroddiad celf gyfoes. Dyma'r adeg o'r flwyddyn y mae yna lawer o arddangosfeydd celf o bob math yn digwydd ac rydw i wedi cael cyfle i weld y diwylliant celf gyfoes iach a bywiog o bob math ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, o'r amgueddfeydd a'r orielau mawr drwodd i'r datblygiad diddorol sy'n digwydd bellach mewn llawer o orielau preifat, llai, a'r orielau rhanbarthol, safonol, megis y Mostyn yn y gogledd a Glyn y Weddw a Glynn Vivian yn Abertawe. Mae hyn i gyd wedi cael ei gydnabod yn glir yn yr adroddiad ac efallai mai un o'r argymhellion mwyaf rhybuddiol i mi fel Gweinidog oedd nad ydym yn creu gormod o gynnwrf nac unrhyw fath o anwastadrwydd yn y ddarpariaeth bresennol sy'n bod. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn allweddol bwysig.
Mae'r argymhellion yn eithaf clir. Y cam cyntaf ydy'r hyn a elwir yn gynfas cenedlaethol comisiynu gweithiau newydd ledled Cymru i greu diddordeb, gydag artistiaid yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol; y cam o fuddsoddi yn y seilwaith sydd gennym yn barod gan ddarparu dull cyflenwi sy'n agor y casgliadau cenedlaethol ac yn cynnig gweithiau newydd i gynulleidfaoedd ar draws y wlad; ac yna y trydydd argymhelliad i sefydlu pencadlys celf gyfoes cenedlaethol yn ofod parhaol ac yn llwyfan bywiog.
Wel, mae'r model yma sydd wedi'i awgrymu yn yr adroddiad yn un cymhleth, ond mae o'n un y gallwn ni feddwl am ei ddatblygu mewn sawl ffordd wahanol, gan gysylltu hynny â pha adnoddau sydd ar gael. Fel gyda'r astudiaethau chwaraeon, mae'r cyfan yn dibynnu ar weithredu mewn partneriaeth, yn fy marn i, ac mi fyddaf i yn ceisio gwneud hynny os caf i'r cyfle i barhau yn y swydd yma ac i weithredu ar yr argymhellion. Mae'r astudiaeth yn codi allan o ymgynghoriad, gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r rhai a wnaeth y gwaith, a hefyd i'r holl garedigion chwaraeon a charedigion celf mas fanna sydd wedi cymryd diddordeb yn y broses yma, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed beth a ddywedir ymhellach yn y ddadl yma heddiw.