5. Dadl: 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:05, 27 Tachwedd 2018

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mi fyddaf i'n trafod yr elfen amgueddfa bêl-droed yn benodol, ac mi fydd Adam Price yn ymhelaethu ar yr oriel gelf gyfoes. Felly, gwelliant 2 a gwelliant 5 ydy'r rhai rydw i am ganolbwyntio arnyn nhw ac, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus nid yn unig i nodi ond i groesawu argymhelliad canolog yr astudiaeth achos ar yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol a hefyd, wrth gwrs, i symud ymlaen i weithredu ar yr argymhellion hynny o greu'r amgueddfa bêl-droed rydym ni i gyd am ei gweld.

Wrth gwrs, mae wedi bod yn uchelgais inni fel plaid i wireddu hyn ac rydym ni'n falch bod yr astudiaeth yn cadarnhau'n huchelgais ni yn y lle cyntaf bod angen amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, ac yn ail, bod yr amgueddfa honno yn cael ei lleoli yn Wrecsam ac felly yn hynny o beth, rydym ni'n croesawu'r astudiaeth fel cam sylweddol ymlaen.